1 Ysgyfarnog ynghartref
2 A fag rhai oni fo cref
3 kath hirdaith gethinfraith gern
4 kod lwydwyllt coedwal adwern
5 krair hy bron a ffy ar ffysc
6 kraig byhwmanwraig manwrysc
7 [ ]thy fydde er i meithring
8 [ ]ir drvm gwrthallt y dring
9 Gwiwair o chae frig gwial
10 Gwaeth oedd ir Tadmaeth y tal
11 Brawd hy mewn lletty lletollt
12 Bradog darf belldarf bollt
13 Ystvd air ys doid erof
14 Ystid goch os da dy gof
15 bennod yr hydd gelltydd gil
16 Ban oeddit gynt banw eiddil
17 Iwrch drythyll hely deilgyll hawl
18 Iyrchaws hydr iyrchvs hvdawl
19 Rhywyllt i rhvthr mewn rhewynt
20 Rhy fain hydd rhy fvan hynt
21 [123v] Rhydain iwrch rhedai yn ial
22 Rhy dinwyn lwdn rhedynwal
23 Edifar fydd i dofi
24 Dan frig gwydd y trig y tri
25 dwfn helynt a lledgynt llid
26 Dirmygyn dir y megid
27 felly y gwnaeth gaeth gariad
28 Ger fy mron goryw fy mrad
29 A myfy cywely call
30 Vne geirw neu ag arall
31 Bannav'r havl leufer loywfys
32 Bliant vwch y grisiant grys
33 A phan wisc avr i ddavrvdd
34 Mair wyl o ystlys mor rvdd
35 Megais hon dirmigus swydd
36 don aml o oed devnawmlwydd
37 lliniais gerdd a dillynion
38 I geisio dyhvddo hon
39 [124r] Rhin gall er hynny i gyd
40 Anolo fv'r anwylyd
Da' ap Glm'